Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 15 Tachwedd 2018
Amser:
09.27 -
12.47
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5168
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Jayne Bryant AC Mark Isherwood AC Jenny Rathbone AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru John Howells, Llywodraeth Cymru Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Reg Kilpatrick, Llywodraeth Cymru Judith Cole, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Siân Gwenllian AC a Jack Sargeant AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio
Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Cyllid Llywodraeth
Leol a Partneriaeth y Gweithlu.
John Howells, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, Llywodraeth
Cymru
2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r eitemau a ganlyn:
· Nodyn ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan undebau credyd i hyrwyddo eu cyfleusterau benthyca;
· Mewn perthynas â tharged cyffredinol y Llywodraeth o 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn, gwybodaeth ynghylch nifer y cartrefi hyn sy'n dod o dan y diffiniad traddodiadol o dai fforddiadwy;
· Enghreifftiau o arferion da mewn perthynas â'r gwaith a wneir gan Fwrdd Rheoleiddiol Cymru i wella cyfranogiad tenantiaid.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu'r eitemau a ganlyn:
4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel.
4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel
4.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel
4.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch byrddau gwasanaethau cyhoeddus
4.5.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a phob Awdurdod Lleol arall
4.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Llywydd ynghylch Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3, a fydd yn llywio ei adroddiad drafft.